![]() | |
Enghraifft o: | terminoleg pêl-droed ![]() |
---|---|
Math | ultras ![]() |
![]() |
Ultra neu, Ultras (defnyddir y term yn y lluosog fel rheol) efallai Wltras mewn orgraff Gymraeg [1] yw'r enw a roddir i rai timau trefnus radical o gefnogwyr timau pêl-droed yn Ewrop. Tarddodd y term yn yr Eidal ond fe'i defnyddir ledled y byd i ddisgrifio cefnogwyr timau pêl-droed wedi'u trefnu'n bennaf. Mae tuedd ymddygiadol grwpiau llafor o'r fath yn cynnwys eu defnydd o fflerau (mewn coreograffi tiffo yn bennaf), cefnogaeth llafar mewn grwpiau mawr ac arddangos baneri mewn stadia pêl-droed, gyda'r nod o greu awyrgylch sy'n annog eu tîm eu hunain ac yn dychryn chwaraewyr a chefnogwyr y tîm arall. Mae defnyddio arddangosfeydd cywrain yn aml mewn stadia hefyd yn gyffredin. Nid oes diwylliant Ultras cryf yng Nghymru.