Utamaro | |
---|---|
Ganwyd | 北川 勇助 1753, 1754 Kawagoe, Edo |
Bu farw | 31 Hydref 1806 Edo |
Dinasyddiaeth | Japan |
Galwedigaeth | ukiyo-e artist, arlunydd, arlunydd graffig |
Adnabyddus am | Moonlight Revelry at Dozo Sagami, Three Beauties of the Present Day |
Arddull | bijinga |
Prif ddylanwad | Torii Kiyonaga |
Mudiad | ukiyo-e |
llofnod | |
Roedd Kitagawa Utamaro (Siapaneg 喜多川 歌麿) (tua 1753 – 31 Hydref 1806) yn arlunydd a gwneuthuriwr printiau bloc Siapanëaidd a ystyrir yn un o'r arlunwyr Ukiyo-e pennaf.
Mae Utamaro yn adnabyddus yn neilltuol am ei astudiaethau hynod o ferched, llawn awyrgylch, a elwir bijinga. Cyhoeddoedd yn ogystal nifer o luniau o fyd natur, yn arbennig ar gyfer cyfres o lyfrau darluniedig am drychfilod. Cyrhaeddodd ei waith Ewrop yn ail hanner y 19g a chafodd ddylanwad mawr ar arlunwyr Ffrainc a gwledydd eraill.
Ychydig sy'n hysbys am fywyd personol Utamaro a'i yrfa ac mae'r hanes yn amrywio yn ôl ei ffynhonnell. Cafodd ei eni naill ai yn Edo (dinas Tokyo heddiw), Kyoto, neu Osaka, neu mewn dref ranbarthol anhysbys, tua'r flwyddyn 1753. Yn ôl traddodiad arall cafodd ei eni ynYoshiwara, ardal bleser enwog Edo, yn fab i berchennog tŷ te. Ei enw bedydd oedd Kitagawa Ichitaro.
Yn fachgen ifanc aeth yn brentis i'r arlunydd Toriyama Sekien. Arosodd efo Seiken hyd farwolaeth yr arlunydd yn 1788 (honnir un traddodiad fod Utamaro yn fab iddo). Newidiodd ei enw i Utamaro, fel oedd yr arfer, ac ymddengys iddi briodi hefyd, er na chafodd plant.
Mae Utamaro yn enwog am ei luniau sensitif a meistolgar o ferched, yn arbennig merched heirdd Yoshiwara. Mae ei luniau o drychfilod yn nodweddiadol o'i allu i ddal manylion ei wrthrych a'i ddangos mewn golau newydd. Yn ogystal roedd yn cynhyrchu nifer o brintiau erotig Shunga - byddai rhai yn dweud eu bod yn "bornograffig", ond roedd chwaeth yr oes yn wahanol - ar gyfer y farchnad boblogaidd.