Enghraifft o: | type of technology |
---|---|
Math | technoleg |
Y gwrthwyneb | low technology |
Technoleg ddatblygedig ddiweddar sydd ymhell ar y blaen i'w chystadleuwyr ar y farchnad yw uwchdechnoleg.[1] Mae'n ymwneud â defnyddio technegau, peiriannau, a defnyddiau i ddatblygu dyfeisiau a dulliau newydd sydd yn fwy effeithiol, cynhyrchiol, a thrawsffurfiol na'r hen bethau a ffyrdd traddodiadol. Mae uwchdechnoleg yn agwedd bwysig o nifer o wyddorau cymhwysol a diwydiannau modern, gan gynnwys electroneg, telegyfathrebu, technoleg gwybodaeth, biotechnoleg, nanotechnoleg, roboteg, deallusrwydd artiffisial, ynni adnewyddadwy, ac awyrofod.[2]