Math | Cymunedau Gwlad yr Iâ |
---|---|
Poblogaeth | 4,523 |
Pennaeth llywodraeth | Íris Róbertsdóttir |
Cylchfa amser | UTC+00:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Suðurland |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Arwynebedd | 16.3 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 63.4164°N 20.2828°W, 63.387989°N 20.341899°W |
Cod post | 900, 902 |
IS-VEM | |
Pennaeth y Llywodraeth | Íris Róbertsdóttir |
Mae Vestmannaeyjar (IPA:ˈvɛstmanːaˌeiːjar, Seisnigir weithiau i Westman Islands) yn dref ac archipelago oddi ar arfordir ddeheuol Gwlad yr Iâ.[1] Bydd llawer yn gyfarwydd gyda'r enw Saesneg yn dilyn sylw yn y wasg i losgfynyddoedd yno yn yr 20g.
Mae gan yr ynys fwyaf, Heimaey, boblogaeth o 4,135. Does neb yn byw ar yr ynysoedd eraill, er fod gan chwech ohonynt un caban hela yr un. Daeth Vestmannaeyjar at sylw ryngwladol yn 1973 gyda ffrwydrad y llosgfynydd Eldfell a ddifethodd sawl adeilad a gorfodi i'r boblogaeth gyfan adael am fis i'r tir mawr. Lloriwyd oddeutu un pumed o'r dref gan y llif lafa cyn iddo gael ei stopio drwy arllwys 6.8 biliwm litr o ddŵr môr oer arno.[2]