Wadi

Wadi Siyagh yng Ngwlad Iorddonen

Term Arabeg sydd yn cyfeirio'n draddodiadol at gwm yw wadi (Arabeg: وادي‎ wādī). Gall hefyd gyfeirio at wely afon sych (dros dro) sydd ddim ond yn llifo pan fo glaw trwm, neu, fel arall, ond yn ffrwd ysbeidiol. Ceir gair Cymraeg am hyn o beth sydd yn aml yn cael ei ddefnyddio fel cyfieithiad o "wadi", sef sychnant.[1]

Un o'r wadis enwocaf yn y byd yw Wadi Rum yng Ngwlad Iorddonen. Mae'r wadi yn cynnwys ffurfiant creigiau anhygoel wedi eu naddi gan yr elfennau. Mae'n gyrchfan twristiaeth boblogaidd yn y wlad.

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru

Wadi

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne