Math o gyfrwng | cyfres deledu |
---|---|
Iaith | Saesneg |
Dechreuwyd | 4 Mai 1982 |
Daeth i ben | 3 Gorffennaf 1992 |
Gwefan | https://www.bbc.co.uk/programmes/p00ntbt7 |
Sioe siarad ar deledu'r Deyrnas Unedig oedd Wogan. Cyflwynwyd y sioe gan Terry Wogan. Dilynodd y rhaglen fformat cyfres o'r enw What's on Wogan? ym 1980, ond aflwyddiannus fu'r rhaglen hon i ddenu gwylwyr. Yn wreiddiol, darlledwyd sioe Wogan ar nosweithiau Mawrth ar BBC1 ym 1981 ac yna o 1982 tan 1984 cafodd ei symud i'r slot Parkinson ar nosweithiau Sadwrn. Yn ddiweddarach, cafodd ei symud i nosweithiau'r wythnos am 7yh, lle'r arhosodd, deir gwaith yr wythnos, o 1985 tan 1992. Cafodd y rhaglen ei disodli gan yr opera sebon Eldorado.