![]() | |
Math | hairnet ![]() |
---|---|
![]() |
Math o benwisg sydd wedi'i ddylunio i ddal y gwallt yn ôl mewn darn o ddefnydd neu sach yw ysnoden.[1] Yn ei ffurf draddodiadol, mae'r benwisg yn debyg i gwcwll sy'n cael ei wisgo'n agos dros gefn y pen. Mae'n debyg i rwyd gwallt, ond mae ysnodenni fel arfer yn fwy llac,[2] a rhwyll mwy cras, ac edafedd sy'n amlwg yn dewach. Gall band rhwyll tynnach orchuddio'r talcen neu'r corun, ac yna redeg y tu ol i'r clustiau, ac i lawr y gwar. Mae sach o rhyw fath ynghlwm wrth y band sy'n gorchuddio a dal y gwallt yn y cefn. Roedd ysnoden weithiau yn cael ei gwneud o ddeunydd solid, ond fel arfer yn edafedd a oedd wedi'i wau yn llac neu ddeunydd arall tebyg i rwyd. Yn hanesyddol, roedd sach bychan o edafedd man yn dal y gwallt ar gefn y pen neu'n ei ddal yn agos i'r gwar.[3]
Ceir ysnodenni hefyd ar gyfer barfau neu flewiach arall ar y wyneb at ddibenion hylendid wrth drin a chynhyrchu bwyd.Mae ysnodenni yn aml yn cael eu gwisgo gan fenywod sy'n Iddewon Uniongred, er mwyn gorchuddio'r gwallt yn hytrach na'i ddal. Oherwydd hynny, maen nhw'n aml wedi eu leinio gyda deunydd fel nad oes modd gweld trwyddynt.Mae ysnodenni hefyd wedi dod i gael eu cynhyrchu fel dilledyn aml-bwrpas, i'w gwisgo o amgylch y gwddf, dros y wyneb, yn ogystal ag ar y corun.
Snoods ... They're like a hair net but have a looser fit and much coarser mesh ...