Enghraifft o: | mudiad gerila, mudiad cenedlaethol dros ryddid |
---|---|
Idioleg | cenedlaetholdeb Affricanaidd, cenedlaetholdeb asgell chwith, sosialaeth Affrica, Maoaeth |
Daeth i ben | 1975 |
Label brodorol | Zimbabwe African National Union |
Dechrau/Sefydlu | 8 Awst 1963 |
Olynwyd gan | Zimbabwe African National Union – Patriotic Front, Zimbabwe African National Union – Ndonga |
Sylfaenydd | Enos Nkala, Edgar Tekere, Leopold Takawira, Ndabaningi Sithole, Herbert Chitepo |
Enw brodorol | Zimbabwe African National Union |
Gwladwriaeth | Simbabwe |
Corff a ffurfiwyd i wrthwynebu llywodraeth Ian Smith yn Ne Rhodesia oedd ZANU (Zimbabwe African National Union, sef "Undeb Cenedlaethol Affrica Simbabwe"). Fe'i ffurfiwyd pan fu hollt yn y mudiad ZAPU (Zimbabwe African People's Union, sef "Undeb Pobl Affricanaidd Simbabwe"). Fe'i sefydlwyd gan y Parchedig Ndabaningi Sithole, gyda Herbert Chitepo. Roedd tueddiad y mundiad ZANU yn fwy tuag ideoleg Maoaeth.
Daeth Robert Mugabe yn arweinydd ZANU wedi i Herbert Chitepo gael ei lofruddio ar 18 Mawrth, 1975. Gadawodd Ndabaningi Sithole i ffurfio'r blaid ZANU (Ndonga), oedd o blaid defnyddio dulliau heddychlon i geisio grym, tra roedd ZANU dan Mugabe o blaid ymgyrch arfog.
Wedi i lywodraeth Ian Smith orfod derbyn llywodraeth fwyafrifol, enillodd ZANU yr etholiad yn 1980 dan Robert Mugabe, a ddaeth yn Brif Weinidog Simbabwe. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, ail-unodd a ZAPU dan Joshua Nkomo i ffurfio plaid ZANU-PF, y blaid sy'n llywodraethu yn Simbabwe ar hyn o bryd, gyda Robert Mugabe fel Arlywydd.