35 Diwrnod/Awr | |
---|---|
Genre | Drama |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Nifer cyfresi | 5 |
Nifer penodau | 32 (Rhestr Penodau) |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 45-50 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Fformat llun | 1080i (16:9 HDTV) |
Darllediad gwreiddiol | 23 Mawrth 2014 |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol | |
Proffil IMDb |
Rhaglen deledu ar ffurf drama ddirgelwch yw 35 Diwrnod a 35 Awr. Cynhyrchwyd y gyfres gan gwmni Apollo (rhan o grŵp Boom Cymru). Fe'i ddarlledir yn y slot ddrama arferol am 9pm ar nos Sul ar S4C.
Mae'r cyfresi yn dilyn un stori gyda phatrwm tebyg drwy gychwyn wrth ddarganfod corff marw. Wedi hynny mae'r stori yn neidio nôl 35 diwrnod/awr drwy gyflwyno'r sefyllfa a chymeriadau. Mae'r penodau sy'n dilyn yn symud ymlaen drwy amser cyn cyrraedd yn ôl i'r golygfeydd cychwynnol i ddatgelu'r llofrudd.