Priffordd yn Ne Cymru sy'n cysylltu'r Mwmbwls yn Ninas a Sir Abertawe a Phontsenni ym Mhowys yw'r A4067. Mae hi'n rhedeg drwy Gwm Tawe ac yn croesi'r Fforest Fawr. Ei hyd yw tua 57 km (35 milltir).