![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8006°N 3.7131°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
![]() | |
Pentref bach yng nghymuned Ystradgynlais, Powys, Cymru, yw Aber-craf[1] neu Abercraf[2] (Saesneg: Abercrave). Saif yn ne-orllewin Brycheiniog yng Nghwm Tawe Uchaf, ac mae'n ymestyn i gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae heol yr A4067 o Abertawe i Aberhonddu yn mynd heibio i'r pentref.
Fel y rhan fwyaf o Gymoedd y De, roedd nifer o weithfeydd glo yn yr ardal, sef y Lefel Fawr, International (Candy) a Glofa Abercraf, ond cawsant eu cau yn y chwedegau.
Mae'r pentref ar ymyl mynydd Cribarth. Mae'r mynydd yn atgoffa rhywun o siâp dyn yn gorwedd i lawr, felly mae'r bobl leol yn galw 'Y Cawr Cwsg' arno. Y lle gorau i wylio'r olygfa hon ydy Caerlan, filltir i lawr y cwm tuag at Ystradgynlais.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]