Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 10,577, 11,284 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,674.34 ha |
Cyfesurynnau | 53.28°N 3.58°W |
Cod SYG | W04000105 |
Cod OS | SH945775 |
Cod post | LL22 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Gill German (Llafur) |
Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Abergele.[1][2] Mae'n dref farchnad, wledig ac yn ganolfan siopa i'r cylch, gyda gorsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Saif ar lannau Afon Gele ar priffordd yr A55 rhwng Bae Colwyn a'r Rhyl. I'r dwyrain o'r dref ceir gwlybdir eang Morfa Rhuddlan a Rhuddlan tua phedair milltir i ffwrdd. Fe'i lleolwyd yn yr hen Sir Ddinbych cynt. Mae Caerdydd o ddeutu 202 km i ffwrdd o Abergele ac mae Llundain o ddeutu 307 km. Y ddinas agosaf ydy Llanelwy sy'n tua 11 km i ffwrdd.