Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.561°N 3.754°W |
Cod OS | SN811973 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Craig Williams (Ceidwadwr) |
Pentref bychan yng nghymuned Cadfarch, Powys, Cymru, yw Aberhosan ( ynganiad ). Saif mewn cwm diarffordd 6 milltir i'r de-ddwyrain o Fachynlleth lle rhed Nant Cymau i lawr o'r bryniau i ymuno ag Afon Carrog, sydd yn ei thro yn ymuno ag Afon Dulas yn is i lawr y cwm.
Datguddwyd cofeb gerllaw ym 1990, ar gyfer darlledydd y BBC, Lewis John Wynford Vaughan-Thomas CBE, a adeiladwyd wedi ei farwolaeth ym 1987.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[2]