![]() | |
Enghraifft o: | duwdod Rhufeinig, personoliad, epithet ![]() |
---|---|
![]() |
Affrica (Lladin: Africa) oedd symbol yr Affrica Rufeinig a duwies a addolid yn yr ardal honno.
Mae'r awdur Pliny'r Hynaf, yn ei lyfr Hanes Naturiol yn dweud na fyddai neb yn Affrica (h.y. gogledd Affrica) yn mentro ar unrhyw beth o gwbl heb alw am nawdd Affrica yn gyntaf.
Fel rheol fe'i porteadir gyda chroen eliffant am ei phen ac yn dal corn ffrwythlondeb yn eu dwylo o flaen modius o wenith. Mae'r gwrthyrchau totemaidd a gysylltir â hi yn cynnwys sgorpionau, bŵau a chawell saethau.
Ceir ei phortread ar rai darnau pres, ar feini cerfiedig ainsi ac ar rai o luniau mosaic yr Affrica Rufeinig (er enghraifft yn amgueddfa El Jem).