Enghraifft o'r canlynol | Intifada |
---|---|
Gwlad | Palesteina |
Rhan o | Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd |
Dechreuwyd | 28 Medi 2000 |
Daeth i ben | 8 Chwefror 2005 |
Rhagflaenwyd gan | Intifada Cyntaf Palesteina |
Lleoliad | Palesteina |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ail Intifada y Palesteiniaid, neu fel arfer, Yr Ail Intifada (a alwyd ar y pryd gan lywodraeth Palestina Intifada al-Aqṣā, mewn Arabeg: انتفاضة الأقصى; Hebraeg אינתיפאדת אל-אקצה) ) oedd gwrthryfel Arabiaid Palestina yn Jerwsalem ar 28 Medi 2000, a ymledodd yn ddiweddarach i diroedd Palesteina a feddianwyd gan Israel yn 1967 wedi'r Rhyfel Chwe Diwrnod lle meddianwyd tir Gwlad yr Iorddonen i'r gorllewin o'r afon Iorddonen a Gaza oddi ar yr Aifft. Yn ôl y fersiwn Balestinaidd, y bennod gychwynnol oedd yr ymateb i ymweliad, gan arweinydd plaid Israelaidd, Likud, Ariel Sharon (yng nghwmni dirprwyaeth o’i blaid a channoedd o heddlu Israel mewn dillad terfysg) i Fryn y Deml (Temple Mount), lle cysegredig i Islamiaid ac Iddewon sydd wedi'u lleoli yn yr Hen Ddinas. Roedd yr Intiffada yn olyniaeth o ddigwyddiadau treisgar a gynyddodd yn gyflym mewn dwyster ac a barhaodd am flynyddoedd, gan ymgymryd â nodweddion rhyfel athreuliad.