Enghraifft o: | dispossession, Carthu ethnig |
---|---|
Dyddiad | 1948 |
Lleoliad | Palesteina dan Fandad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r term Arabeg al Nakba neu al Naqba (Arabeg: النكبة), sy'n golygu "Y Catastroffi" neu "Y Drychineb", yn cael ei ddefnyddio gan y Palesteiniaid i gyfeirio at laddfa, symudiad drwy drais a ffoedigaeth y Palesteiniaid o Palesteina 1947-1948 gan luoedd arfog y gymuned Iddewig fel yr Haganah, Palmach, Irgun a Lehi, cyn ac yn ystod Rhyfel Palesteina 1948. Gyrrwyd hanner poblogaeth Arabaidd Palesteina (750,000 o bobl) o'u cartrefi a gwrthododd y wladwriaeth Israeli newydd ganiatâd iddynt ddychwelyd. Gwacawyd a dinistriwyd pentrefi cyfan. Meddiannwyd rhai o'r tai gan wladychwyr Iddewig. Codwyd gwladychfeydd Iddewig newydd a choedwigoedd ar safle'r pentrefi a ddiboblogwyd. Mae'r Palesteiniaid a ddadleolwyd a'u teuluoedd bellach yn byw mewn gwersylloedd ffoaduriaid ar y Lan Orllewinol a Llain Gaza ac yn alltud mewn gwledydd Arabaidd cyffiniol ac ar draws y byd. Cyfeirir ati hefyd fel Ffoedigaeth y Palesteniaid (Arabeg: الهجرة الفلسطينية, al-Hijra al-Filasteeniya).
Ceir Diwrnod Nakba i gofio'r digwyddiad ar 15 Mai bob blwyddyn. Yn 2009 gwaharddodd Gweinyddiaeth Addysg Israel y gair "Nakba" o lyfr ysgol i blant ifainc Arabeg.[1] Yn 2011 pasiodd senedd Israel (y Kneset) ddeddf sy'n gwahardd cynnal digwyddiadau i gofio'r Nakba.[2]