Alffred Fawr | |
---|---|
Ganwyd | 849 Wantage |
Bu farw | Caerwynt |
Dinasyddiaeth | Wessex |
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor, teyrn |
Swydd | teyrn Lloegr, brenin Wessex |
Dydd gŵyl | 26 Hydref |
Tad | Æthelwulf |
Mam | Osburh |
Priod | Ealhswith |
Plant | Æthelflæd, Edward yr Hynaf, Ælfthryth o Fflandrys, Æthelweard, Æthelgifu |
Llinach | Teyrnas Wessex |
Alffred Fawr (848/849 - 26 Hydref 899) oedd Brenin Wessex rhwng 871 a c.886 a Brenin yr Eingl-Sacsoniaid rhwng c. 886 a 899. Ef oedd mab ieuengaf y Brenin Æthelwulf o Wessex.[1] Bu farw ei dad pan oedd yn ifanc, a bu tri brawd Alffred, Æthelbald, Æthelberht ac Aethelred, yn rheoli o flaen Alffred.[2]
Wedi iddo ddod i’r orsedd, treuliodd Alffred sawl blwyddyn yn brwydro yn erbyn ymosodiadau gan y Llychlynwyr.[3] Enillodd fuddugoliaeth bwysig ym Mrwydr Edington yn 878 a lluniodd gytundeb gyda’r Llychlynwyr, gan sefydlu Cyfraith y Daniaid yng ngogledd Lloegr yn y pen draw. Arolygodd Alffred hefyd droedigaeth grefyddol yr arweinydd Llychlynnaidd, Guthrum, i Gristnogaeth.[2][4] Llwyddodd i amddiffyn ei deyrnas rhag ymosodiadau ac ymdrechion y Llychlynwyr i goncro ei deyrnas, ac oherwydd hynny datblygodd i fod yn brif lywodraethwr Lloegr. Mae gwybodaeth am ei fywyd wedi ei chynnwys yng ngwaith yr esgob a’r ysgolhaig Asser.
Roedd Alffred yn enwog am fod yn ddyn dysgedig a thrugarog, gyda natur hawddgar a phwyllog a oedd yn hyrwyddo addysg a dysg. Un o’i awgrymiadau yn y maes hwn oedd cynnig bod addysg gynradd yn cael ei chyflwyno mewn Hen Saesneg yn hytrach na Lladin.[1] Bu hefyd yn unigolyn pwysig o ran sicrhau bod gwelliannau'n digwydd o fewn y gyfundrefn gyfreithiol a milwrol, ac ymdrechodd i wella cyflwr bywyd cyffredinol ei bobl.[1] Rhoddwyd y teitl ‘Fawr’ iddo yn ystod ac ar ôl Diwygiad y 16g. Ef, ynghyd â’r Brenin Danaidd, Cnut Fawr neu Canute, yw’r unig frenhinoedd yn hanes Lloegr sydd wedi cael eu hanrhydeddu gyda’r ansoddair hwn.