Math | amgueddfa forwrol, amgueddfa genedlaethol, amgueddfa |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Amgueddfa Cymru |
Lleoliad | Amgueddfa Forwrol a Diwydiannol |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 6 metr |
Cyfesurynnau | 51.6164°N 3.9386°W |
Rheolir gan | Amgueddfa Cymru |
Canolfan ar gyfer astudio pob agwedd ar fywyd morwrol Cymru yw Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (Saesneg: National Waterfront Museum). Fe'i lleolir yn Abertawe ac mae'n rhan o Amgueddfa Cymru. Mae hefyd yn Fan Angoru ERIH, yr European Route of Industrial Heritage.
Mae'r adeilad newydd wedi ei adeiladu o lechi a gwydr ac wedi ei gyfuno â hen adeilad warws rhestredig ar Radd II (bu gynt yn Amgueddfa Diwydiant a Môr Abertawe). Mae'r amgueddfa newydd yn delio gyda hanes y Chwyldro Diwydiannol gan gyfuno eitemau hanesyddol o bwys gyda thechnolegau cyfoes megis sgrîn gyffwrdd a systemau cyflwyno amlgyfrwng. Dyluniwyd yr adeiad a'r arddangosfa gan Wilkinson Eyre a Landesign; Davis Langdon oedd rheolwr y cynllun.
Dechreuodd y syniad ar gyfer yr amgueddfa ddod i'r fei mewn ymgynghoriad cyhoeddus yn Ebrill 1998, a derbyniwyd arian gan Awdurdod Datblygu Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri ymysg eraill. Agorwyd yr amgueddfa'n swyddogol yn Hydref 2005, mewn seremoni a fynychwyd gan nifer o enwogion Cymreig megis Gareth Edwards a'r Prif Weinidog, Rhodri Morgan. Dywed rhai fod y datblygiad yn dwyn sylw oddi ar canol y ddinas, sydd wedi dioddef dirywiad economaidd ers ddechrau'r 1980au.[1]
Gwnaethpwyd yr Amgueddfa yn lle i gynnal priodasau ar 15 Rhagfyr 2005.[2]