Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Amnest Rhyngwladol

Amnest Rhyngwladol
Enghraifft o'r canlynolsefydliad anllywodraethol, sefydliad di-elw, nonprofit corporation Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu28 Mai 1961 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifInternational Institute of Social History Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadSecretary-General of Amnesty International Edit this on Wikidata
SylfaenyddPeter Benenson Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolCampaign to Stop Killer Robots Edit this on Wikidata
Isgwmni/auAmnesty International Ireland, Amnesty International France, Amnesty International Brazil Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsefydliad anllywodraethol Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Enw brodorolAmnesty International Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.amnesty.org Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arwyddlun Amnest Rhyngwladol

Carfan bwyso annibynnol byd-eang yw Amnest Rhyngwladol (a elwir yn gyffredin yn Amnest) sydd yn ymgyrchu dros ryddhad pob carcharor cydwybod (sef pobl a garcharir neu gam-drinir oherwydd eu credoau gwleidyddol neu grefyddol: gweler hefyd carcharor gwleidyddol). Sefydlodd y cyfreithiwr Prydeinig Peter Benenson y mudiad yn 1961, gyda'i bencadlys yn Llundain. Seilir Amnest Rhyngwladol ar rwydwaith o grwpiau lleol gwirfoddol ac aelodau unigol ar draws y byd, sydd yn mabwysiadu carcharorion cydwybod ac yn dilyn'u hachosion gyda'r llywodraethau perthnasol neu drwy gyrff rhyngwladol. Mae dulliau'r mudiad o ymchwilio ac ymgyrchu yn cynnwys monitro, cyhoeddusrwyd trwy'r cyfryngau torfol, a gohebiaeth gydag unigolion.

Mae gan Amnest Rhyngwladol tua 1 miliwn o aelodau byd-eang, gyda 5,300 o grwpiau gwirfoddol ac adrannau a drefnir yn ôl gwlad mewn 56 o wledydd, a chefnogwyr mewn 162 o wledydd. Caiff ei gyllido gan roddion gwirfoddol. Derbynnodd Gwobr Heddwch Nobel yn 1977 am "ei ymdrechion ar ran amddiffyn urddas dynol yn erbyn trais a darostyngiad".

Enillodd Wobr Erasmus ym 1976.[1]

  1. (Saesneg) "Former Laureates: Amnesty International". Praemium Erasmianum Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-30. Cyrchwyd 24 Mehefin 2017.

Previous Page Next Page