![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,232, 1,230 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,818.94 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.73°N 4.66°W ![]() |
Cod SYG | W04000933 ![]() |
Cod OS | SN1607 ![]() |
Cod post | SA67 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Henry Tufnell (Llafur) |
![]() | |
Pentref glan-môr a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Amroth[1] neu Llanrhath (neu Llanrath sef "yr eglwys ger nant Rhath"). Saif yn ne-ddwyrain y sir ar Fae Caerfyrddin, 4 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Saundersfoot a 2 filltir i'r dwyrain o bentref Stepaside. Mae'r pentref, sy'n bron iawn ar y ffin â Sir Gaerfyrddin, yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Yn y 19g pentref ar gyfer teuluoedd glowyr lleol a weithiai ym mhyllau glo carreg (anthracite) yr ardal oedd Amroth. Mae'r tai yn wynebu'r môr ac yn agored iddo, felly ceir nifer o dorrwyr dŵr ar y traeth llydan i'w amddiffyn rhag y llanw uchel. Pan fo'r môr allan gellir gweld olion hen goedwig a foddwyd gan y môr rhai miloedd o flynyddoedd yn ôl (tua 5000 CC yn ôl profion carbon radio). Mae esgyrn anifeiliaid sydd wedi darfod o'r tir yn cael eu darganfod ar y traeth weithiau o bryd i'w gilydd, ynghyd ag offer carreg cynhanesyddol.
Erbyn heddiw mae Amroth yn llawn twristiaid yn yr haf a cheir nifer o barciau carafanau a chalets ar eu cyfer. Mae Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg trwy'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[3]