Andrew Marvell | |
---|---|
Engrafiad o Andrew Marvell o lyfr o 1681 | |
Ganwyd | 31 Mawrth 1621 Winestead |
Bu farw | 16 Awst 1678 o malaria Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr, y Deyrnas Unedig, Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, gwleidydd, llenor, dychanwr |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the Third Protectorate Parliament, Member of the April 1660 Parliament, Member of the 1661-79 Parliament |
Adnabyddus am | Horatian Ode upon Cromwell’s Return from Ireland |
Tad | Andrew Marvell |
Bardd a dychanwr o Loegr oedd Andrew Marvell (31 Mawrth 1621 – 18 Awst 1678) sy'n nodedig fel un o'r Metaffisegwyr a flodeuai ym marddoniaeth Saesneg Lloegr yn yr 17g.
Ganwyd yn Nwyrain Swydd Efrog, yn fab i glerigwr, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Hull ac yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Treuliodd ryw bedair blynedd yn teithio'r cyfandir. Yn 1651–2 bu'n diwtor i Mary, merch yr Arglwydd Fairfax, pencadlywydd y Seneddwyr yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr, ac yn cyflawni'r swydd honno yn Nun Appleton, Swydd Efrog. Yno, cyfansoddodd ei gerddi "Upon Appleton House" a "The Garden" a'i gylch Mower.
Yn ystod cyfnod Gwerinlywodraeth Lloegr, cyfansoddodd Marvell sawl cerdd yn clodfori'r Arglwydd Amddiffynnyd Oliver Cromwell, gan gynnwys "An Horatian Ode upon Cromwell's Return from Ireland" (1650). O 1653 i 1657, gweithiodd yn diwtor i William Dutton, yr hwn a oedd dan ofal Cromwell, ac yn 1657 penodwyd Marvell yn gynorthwy-ydd i John Milton wrth ei swydd yn ysgrifennydd Lladin yn y swyddfa dramor. Gwasanaethodd hefyd yn Aelod Seneddol dros Hull, tref ei fagwraeth, o 1659 hyd nes ei farwolaeth.
Yn sgil yr Adferiad yn 1660, trodd Marvell at ddychangerddi gwleidyddol, megis "The Last Instructions to a Painter" am yr Arglwydd Clarendon, a rhyddiaith ddychanol, er enghraifft "The Rehearsal Transpros’d" (1672–73). Ysgrifennodd gerdd gymeradwyol ar gyfer ail argraffiad Paradise Lost gan Milton. Cyhoeddodd hefyd ysgrifeniadau gwleidyddol a oedd yn dadlau dros oddefiad crefyddol ac yn lladd ar gamddefnydd grymoedd y frenhiniaeth.