Math | ardal fetropolitan, lle |
---|---|
Enwyd ar ôl | Bae San Francisco |
Poblogaeth | 7,765,640 |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Cefnfor Tawel |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 26,390 km² |
Cyfesurynnau | 37.81°N 122.37°W |
Rhanbarth poblog o amgylch Bae San Francisco yng Ngogledd Califfornia, Unol Daleithiau America, yw Ardal Bae San Francisco (Saesneg: San Francisco Bay Area). Prif ddinasoedd yr ardal yw San Francisco, San Jose, ac Oakland. Mae'n cynnwys y naw sir sy'n ffinio â Bae Francisco, Bae San Pablo a Bae Suisin, a rennir ym bum isranbarth, sef:
Yn Nghyfrifiad 2020 roedd gan yr ardal boblogaeth o tua 9.7 miliwn.[1] Mae'n cwmpasu llawer o ddinasoedd a threfi, yn ogystal â pharciau cenedlaethol a mannau agored eraill, wedi'u cysylltu gan rwydwaith trafnidiaeth cymhleth. Mae'r hinsawdd dymherus yn fwyn iawn, ac mae'n ffafriol i weithgareddau hamdden ac athletau awyr agored.
Nodweddir y tair prif ddinas yn Ardal y Bae gan ddiwydiannau gwahanol. Mae San Francisco yn gartref i dwristiaeth a'r diwydiant cyllid, ac mae'n gartref i nifer o gonfensiynau. Mae Bae'r Dwyrain, sydd wedi'i ganoli o amgylch Oakland, yn gartref i ddiwydiant trwm, gwaith metel, olew a llongau. San Jose yw calon Dyffryn Silicon ac mae'n fagnet ar gyfer technolegau newydd. Mae Bae'r Gogledd yn ganolfan bwysig ar gyfer amaethyddiaeth a'r diwydiant gwin.