Math | ardal an-fetropolitan |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Gaerloyw |
Prifddinas | Stroud |
Poblogaeth | 119,019 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerloyw (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 460.65 km² |
Cyfesurynnau | 51.748°N 2.216°W |
Cod SYG | E07000082 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Stroud District Council |
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr, yw Ardal Stroud (Saesneg: Stroud District).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 461 km², gyda 119,019 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'r ardal yn cynnwys rhan ganolog Swydd Gaerloyw ar lan ddeheuol Afon Hafren. Mae'n ffinio â phum ardal arall Swydd Gaerloyw, sef Ardal Fforest y Ddena, Bwrdeistref Tewkesbury, Dinas Caerloyw, Ardal Cotswold a De Swydd Gaerloyw.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Mae pencadlys yr awdurdod yn Stroud, tref fwyaf yr ardal. Mae'r aneddiadau mwy yn cynnwys trefi Berkeley, Dursley, Minchinhampton, Nailsworth, Painswick, Stonehouse a Wotton-under-Edge.