Math | arteffact, gwrthrych crefyddol, meddyginiaeth |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae arogldarth (Lladin: incendere, "llosgi")[1] yn cynnwys defnyddiau biotig aromatig, megis gymiau planhigol a pherlysiau, sy'n rhyddhau mwg persawrus wrth losgi. Mae'r term "arogldarth" yn cyfeirio at y sylwedd ei hun, yn hytrach na'r arogl ei fod e'n cynhyrchu. Fe'i defnyddir o fewn seremonïau crefyddol, puredigaeth ddefodol, aromatherapi, myfyrdod, am greu hwyl, i guddio aroglau drewi, ac mewn meddygaeth.[2][3][4] Mae'i ddefnydd efallai'n tarddu o Hen Aifft, lle mewnforiwyd gymiau a resinau o goed aromatig o arfordiroedd o Arabia a Somalia er mwyn ei ddefnyddio mewn seremonïau crefyddol.
Fel arfer, mae arogldarth yn cynnwys deunydd planhigyn aromatig ac olewau hanfodol.[5] Mae dau brif fath o losgi arogldarth, sef "llosgi'n anuniongyrchol" a "llosgi'n uniongyrchol." Mae angen ffynhonnell wres ar wahân ar losgi arogldarth yn anuniongyrchol, hefyd a elwir "arogldarth an-hylosg," oherwydd nid yw'n gallu llosgi ar ei ben ei hunain. Llosgir arogldarth gyda fflam ac yn cael ei wyntyllu wrth losgi arogldarth yn uniongyrchol, hefyd a elwir "arogldarth hylosg." Bydd y marworyn tywyn sydd ar yr arogldarth yn mudlosgi a rhyddhau persawr. Mae enghreifftiau o losgi'n uniongyrchol yn cynnwys ffyn arogldarth (ffyn jos) a chonau neu byramidiau.