Math | cymuned, dinas |
---|---|
Prifddinas | Asti |
Poblogaeth | 73,421 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Secondo di Asti |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Asti |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 151.31 km² |
Uwch y môr | 123 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | Azzano d'Asti, Baldichieri d'Asti, Calliano Monferrato, Castagnole Monferrato, Castell'Alfero, Castello di Annone, Celle Enomondo, Chiusano d'Asti, Cinaglio, Cossombrato, Isola d'Asti, Monale, Mongardino, Montegrosso d'Asti, Portacomaro, Refrancore, Revigliasco d'Asti, Rocca d'Arazzo, San Damiano d'Asti, Settime, Tigliole, Vigliano d'Asti |
Cyfesurynnau | 44.9°N 8.2069°E |
Cod post | 14100 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Asti |
Dinas a chymuned (comune) yng ngogledd-orllewin yr Eidal yw Asti, sy'n brifddinas talaith Asti yn rhanbarth Piemonte. Saif yng ngwastadedd Afon Tanaro tua 34 milltir (55 km) i'r dwyrain o ddinas Torino.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y gymuned boblogaeth o 73,899.[1]
Digwyddiad enwog a gynhelir yn Asti ar y trydydd Sul o Fedi bob blwyddyn yw'r Palio di Asti, lle mae holl ardaloedd yr hen dref ynghyd â threfi cyfagos yn cystadlu mewn ras geffylau heb gyfrwy yn Piazza Alfieri yng nghanol y dref. Mae'r traddodiad wedi'i gadw ers y 13g. Dyma'r ras hynaf o'i math yn yr Eidal.
Mae'r ddinas yn ganolbwynt ardal cynhyrchu gwin, ac mae'n enwog am y gwin pefriog Asti Spumante, y gwin melys Moscato d'Asti a'r gwin coch Barbera d'Asti.