Math | talaith yn Awstria |
---|---|
Prifddinas | Linz |
Poblogaeth | 1,490,279 |
Anthem | Hoamatgsang |
Pennaeth llywodraeth | Thomas Stelzer |
Daearyddiaeth | |
Sir | Awstria |
Gwlad | Awstria |
Arwynebedd | 11,981.92 km² |
Uwch y môr | 343 metr |
Yn ffinio gyda | Salzburg, Styria, Awstria Isaf, Bafaria, South Bohemian Region |
Cyfesurynnau | 48.2°N 14°E |
AT-4 | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Landtag of Upper Austria |
Pennaeth y Llywodraeth | Thomas Stelzer |
Talaith yng ngogledd Awstria yw Awstria Uchaf (Almaeneg: Oberösterreich). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,376,797. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Linz, gyda phoblogaeth o 186,298.
Hyd 1918, roedd yr ardal yn rhan o Ymerodraeth Awstria dan yr enw Österreich ob der Enns. O 1938 hyd 1945, Oberdonau oedd ei henw. Mae'n ffinio a'r Almaen a Gweriniaeth Tsiec, a hefyd ar y taleithiau Awstria Isaf, Steiermark a Salzburg.
Rhennir y dalaith yn dair dinas annibynnol (Statutarstädte) a 15 ardal (Bezirke).
Mae gan Awstria Uchaf ddaerareg ddiddorol dros ben; gellir rhannu'r dalaith yn dair ardal o'r gogledd hyd y de: