![]() | |
Math | cymuned, pentref ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Chwedl Gelert ![]() |
Poblogaeth | 455, 459 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri ![]() |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 8,592.81 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.0118°N 4.1025°W ![]() |
Cod SYG | W04000048 ![]() |
Cod OS | SH591482 ![]() |
Cod post | LL55 ![]() |
![]() | |
Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Beddgelert ( ynganiad ); Cyfeirnod OS: SH 59157 48176. Fe'i lleolir ar lecyn deniadol iawn yng nghanol Eryri. Saif ger aber Afon Glaslyn ac Afon Colwyn. Fymryn islaw'r aber rhed yr afon dan hen bont gerrig â dau fwa yng nghanol y pentref. Mae nifer o'r tai a'r gwestai wedi'u hadeiladu o gerrig tywyll lleol. I'r gorllewin mae Moel Hebog a'i chymdogion ac i'r gogledd ceir cyfres o fryniau sy'n codi i ben Yr Wyddfa. Mae lôn yr A4085 rhwng Caernarfon (13 milltir i'r gogledd) a Porthmadog (8 milltir i'r de) yn rhedeg trwy'r pentref. Mae lôn arall yn arwain i galon mynyddoedd Eryri trwy Nant Gwynant i Ben-y-gwryd, ac ymlaen i Gapel Curig neu Llanberis.