Math | intellectual property, scientific publication ![]() |
---|---|
Yn cynnwys | patent application ![]() |
![]() |
Set o hawliau unigryw yw breinlen neu hefyd patent, a roddir gan wladwriaeth am gyfnod o amser i ddyfeisiwr pan mae'n cyflwyno disgrifiad o ddyfais. Dyfais yw'r ateb i broblem dechnegol a gall fod mewn ffurf cynnyrch masnachol neu broses.[1] Mae'n ffurf o eiddo neu gynnyrch deallusol.
Mae gan wledydd y byd gytundebau ynglŷn â phatentau a gwarchod hawliau'r dyfeisiwr. Fel arfer mae'n ofynol i'r ffurflen gais i gael patent ddisgrifio dyfais:
Ni ellir rhoi patent am syniad na 'methodau' busnes. Mae fel arfer, yn gwahardd unrhyw berson arall rhag gwneud, defnyddio, gwerthu, cynnig gwerthu neu fewnforio'r ddyfais.