![]() | |
Enghraifft o: | Chinese dynasty, ancient Chinese state, cyfnod o hanes ![]() |
---|---|
Daeth i ben | c. 256 CC ![]() |
Rhan o | Three Dynasties ![]() |
Dechrau/Sefydlu | c. 1046 CC ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Brenhinllin Shang ![]() |
Olynwyd gan | Brenhinllin Qin ![]() |
Yn cynnwys | Eastern Zhou, Western Zhou ![]() |
Olynydd | Brenhinllin Qin ![]() |
Gwladwriaeth | Ymerodraeth Tsieina ![]() |
![]() |
Brenhinllin Zhou (Tsieineeg: 周朝, pinyin: zhouchao), oedd y drydedd frenhinllin yn hanes Tsieina. Mae'n dyddio o tua 1122 CC hyd 256 CC, yn dilyn Brenhinllin Shang, ac roedd ei thiriogaeth yn ymestyn ar hyd dyffryn yr Afon Felen. Sefydlwyd Brenhinllin Zhou gan y teulu Ji, ac roedd y brifddinas yn Hao (gerllaw Xi'an heddiw).
Yn 770 CC, dinistriwyd y brifddinas gan lwythau barbaraidd o'r gorllewin, a symudodd y brenin Ping y brifddinas tua'r dwyrain i Luoyi (Luoyang heddiw). Ystyrir hyn fel diwedd cyfnod y Zhou gorllewinol, a dechrau'r Zhou Dwyreiniol.
Olynwyd y Zhou gan Frenhinllin Qin.
![]() |
Cyfnodau hanes Tsieina |
---|---|
Hanes Tsieina | Brenhinllin Shang • Brenhinllin Zhou • Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar • Brenhinllin Qin • Brenhinllin Han • Brenhinllin Tang • Brenhinllin Yuan • Brenhinllin Ming • Brenhinllin Qing |