Math | defnydd adeiladu, brick |
---|---|
Deunydd | clay, loam, clinker brick |
Gwneuthurwr | gwneuthurwr brics |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Deunydd adeiladu yw'r fricsen (ll. 'brics' neu 'briciau') a ddefnyddir i wneud waliau, palmentydd ac elfennau eraill mewn gwaith adeiladu carreg. Yn draddodiadol, cyfeiria'r term "bricsen" at uned sy'n cynnwys clai, ond fe'i defnyddir bellach i ddynodi unrhyw unedau petryal wedi'u gosod mewn morter. Gall brics gynnwys pridd, tywod a chalch, neu ddeunyddiau concrit. Gellir grwpio briciau i nifer o ddosbarthiadau gan gynnwys: mathau, deunyddiau a meintiau sy'n amrywio yn ôl ardaloedd a chyfnod, ac fe'u cynhyrchir mewn symiau mawr. Mae dau gategori sylfaenol o friciau: rhai wedi'u tanio (neu grasu) a brics sydd heb eu tanio.
Ceir deunydd o siap tebyg (petryal) a elwir yn 'floc' (ll. 'blociau') hefyd, ac mae'r rhain, fel arfer, wedi'u gwneud o goncrid, ond sydd o faint ychydig mwy na'r fricsen. Ceir hefyd frics a blocs ysgafn a wneir o glai a cherrig mân.
Mae brics wedi'u tanio yn un o'r deunyddiau adeiladu sy'n para hiraf heb weld llawer o ddirywiad ynddynt. Cyfeirir atynt weithiau fel "cerrig artiffisial", ac fe'u defnyddiwyd ers oddeutu 4000 CC. Crewyd brics wedi'u sychu yn yr awyr agored, a elwir hefyd yn "friciau mwd", sawl canrif cyn y brics wedi'u tanio. Yn aml, ychwanegwyd gwellt yn y clai er mwyn ei gryfhau.
Gosodir briciau mewn "cyrsiau" a cheir nifer o batrymau a elwir yn "fondiau", a elwir ar lafar gwlad yn "waith brics". Gall y morter sy'n eu cadw at ei gilydd amrywio'n fawr.