![]() | |
Enghraifft o: | testun, gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Rhan o | Brut y Brenhinedd ![]() |
Iaith | Cymraeg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 14 g ![]() |
Cysylltir gyda | Brut y Brenhinedd ![]() |
Tudalennau | 316 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 13 g ![]() |
Genre | Cyfieithiadau i'r Gymraeg, hanes ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus ![]() |
Gwladwriaeth | Cymru ![]() |
Testun cynnar o'r ffug hanes Brut y Brenhinedd, y fersiwn Cymraeg Canol o'r Historia Regum Britanniae, llyfr enwocaf yr awdur Cambro-Normanaidd Sieffre o Fynwy (c.1100 - c.1155) a gyhoeddwyd ganddo tua'r flwyddyn 1136, yw Brut Dingestow. Fe'i ceir yn Llawysgrif Dingestow, sydd i'w dyddio i tua dechrau'r 14g. Ar sail manylion iaith ac orgraff, cynigir fod y testun ei hun wedi cael ei ysgrifennu rhywbryd yn y 13g. Cyfieithiad rhydd neu addasiad o destun Lladin Sieffre ydyw, ac mae'n perthyn i un o'r chwech prif grŵp o fersiynau o Frut y Brenhinedd; Brut Dingestow yw'r testun hynaf yn y grŵp sy'n dwyn ei enw.[1]