Enghraifft o: | brwydr |
---|---|
Dyddiad | Hydref 1136 |
Rhan o | Ymosodiad y Normaniaid ar Gymru |
Lleoliad | Aberteifi |
Gwladwriaeth | Cymru |
Ystyrir Brwydr Crug Mawr, a ymladdwyd ar 10 Hydref 1136, yn un o brif fuddugoliaethau Cymru; roedd yn rhan o ymdrech y Cymry i adfeddiannu Ceredigion, oedd wedi ei chipio am gyfnod byr gan yr Anglo-Normaniaid. Lladdwyd rhwng 300 a 3,000 o Anglo-Normaniaid. Saif Crug Mawr tua 3 km i'r gogledd-ddwyrain o Aberteifi.
Bu farw Harri I, brenin Lloegr ar 1 Rhagfyr 1135 a chafwyd cyfnod a elwir yn Saesneg yn 'Gyfnod yr Anarchiaeth', pan oedd Lloegr mewn dipyn o anhrefn. Manteisiodd y Cymry ar hyn a dechreuodd gwrthryfel Gymreig 1136 yn erbyn y Normanaid yn ne Cymry pan enillodd y Cymry fuddugoliaeth ar 1 Ionawr 1136, gan ladd tua 500 o Normaniaid mewn brwydr rhwng Llwchwr ac Abertawe. Yna, lladdwyd yr arglwydd Normanaidd Richard Fitz Gilbert de Clare, dri mis wedyn, mewn rhagod yng Nghoed Gwryne ger y Fenni; fe'i lladdwyd gan wŷr Iorwerth ab Owain, ŵyr Caradog ap Gruffydd. Brwydr Crug Mawr, a ymladdwyd yn Hydref y flwyddyn honno oedd y drydedd fuddugoliaeth.[1] Yn filitariadd, yn ôl ymchwiliad 2009 i'r ffynonellau gwreiddiol, mae i'r frwydr hon 'arwyddocâd eithriadol' oherwydd cryfder y fyddin Gymreig - y mwyaf ers buddugoliaeth Cadwgan ap Bleddyn yng Nghoed Yspwys yn 1093.[2]
Disgrifiodd Gerallt Gymro garnedd ar gopa Crug Mawr o gofio'r frwydr.[3] Ceir cofnod o'r garnedd hon ar fap 1810 yr OS ond diflanod erbyn 1888, o bosib oherwydd aredig y tir neu fwyngloddio. Yn 1810 ysgrifennodd Samuel Meyrick fod y garnedd yn dal yno; ceir cofnod ohoni hyd at ganol y 19g.[4] Nid ar chwarae bach mae hepgor tystiolaeth Gerallt mai yma oedd lleoliad y frwydr; dylid cofio i'w dad William fitz Odo de Barri fod yno'n filwr a dau o'i ewyrthod: Maurice a William fitz Gerald. Ceir bryncyn arall 300m i'r gogledd o Grug Mawr (a elwir mewn dogfennau Saesneg yn "Banc-y-Warren"), sef "Cnwc y Saeson", ac sydd o bosib â chysylltiad â'r frwydr.[4]