Enghraifft o'r canlynol | nodwedd, ffenomen naturiol, proses fiolegol |
---|---|
Math | bodolaeth, lyfe |
Yn cynnwys | proses fiolegol, metabolaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bywyd yw'r hyn sy'n galluogi organeb fyw i gymhwyso deunydd heb fywyd o'i hamgylchedd a'i ddefnyddio i dyfu mewn maint a chymhlethder, i adnewyddu ei deunydd biolegol ei hun ac i atgynhyrchu organebau eraill annibynnol sydd hefyd yn meddu ar nodweddion bywyd.
Credir fod bywyd ar y Ddaear wedi dechrau tua 4,500,000,000 o flynyddoedd yn ôl (mae amcangyfrifon mwy ceidwadol yn ei dyddio i o gwmpas 3,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Y pryd hynny roedd yr awyr wedi'i chyfansoddi o nwyon methan, hydrogen, amonia a stêm dŵr. Credir i organebau moleciwlaidd syml gael eu ffurfio mewn canlyniad i'r grym a ollyngid gan belydrau'r haul, mellt a ffrwydriadau llosgfynyddoedd. Organebau ungellog oeddynt.
Mae'n dra thebygol mai yn y môr y datblygodd yr organebau cyntefig hyn i gynnwys enseimau (enzymes) a datblygu'n organebau amlgellog a gynhyrchai RNA a DNA. Gyda threigliad maith iawn amser - tua 1,500,000,000 neu ragor o flynyddoedd - arweiniodd hyn at y planhigion cyntefig cyntaf oedd yn gallu dal grym y goleuni a datblygu ffotosynthesis.
Y canlyniad oedd i ocsigen gael ei rhyddhau i'r awyr ar raddfa cynyddol, proses a ddechreuodd tua 2,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Erbyn tua 400 miliwn roedd yr haen oson yn yr awyrgylch yn ddigon trwchus i gysgodi'r tir rhag ymbelydredd uwchfioled gan ei gwneud yn haws o lawer i blanhigion mwy cymhleth a'r anifeiliad cyntefig cyntaf oroesi. Daeth y rhan fwyaf o bethau byw i ddefnyddio anadlu aerobig a dechreuodd bywyd amlhau ar wyneb y ddaear.
Y genyn yw'r uned etifeddol, a'r gell yw'r uned adeileddol a swyddogaethol bywyd.[1][2] Mae dau fath o gell, procaryotig ac ewcaryotig, ac mae'r ddau ohonynt yn cynnwys cytoplasm wedi'i amgáu o fewn pilen ac yn cynnwys llawer o fiomoleciwlau megis protin ac asid niwclëig. Mae celloedd yn atgenhedlu trwy broses o gellraniad, lle mae'r rhiant-gell yn rhannu'n ddwy neu fwy epilgell ac yn trosglwyddo ei genynnau i genhedlaeth newydd, gan gynhyrchu amrywiad genetig weithiau.
Yn gyffredinol, credir bod organebau yn systemau agored sy'n cynnal homeostasis, sy'n cynnwys celloedd, sydd â chylch bywyd, sydd a metaboledd, sy'n gallu tyfu, addasu i'w hamgylchedd, ymateb i ysgogiadau, atgenhedlu ac esblygu dros sawl cenhedlaeth. Mae diffiniadau eraill weithiau'n cynnwys ffurfiau bywyd angellog fel firysau a firoidau, ond maent fel arfer yn cael eu heithrio oherwydd nad ydynt yn gweithredu ar eu pen eu hunain; yn hytrach, maent yn manteisio ar brosesau biolegol gwesteiwyr.[3][4]
Marwolaeth yw terfyniad parhaol yr holl brosesau biolegol sy'n cynnal organeb, ac felly, marwolaeth yw diwedd ei fywyd. Difodiant yw'r term sy'n disgrifio marwolaeth grŵp, tacson, neu rywogaeth fel arfer. Unwaith y byddant wedi darfod, ni all y rhywogaeth neu'r tacson diflanedig ddod yn ôl yn fyw. Gweddillion neu olion organebau sydd wedi'u cadw yw ffosilau.