Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Caerdydd

Caerdydd
ArwyddairDeffro! Mae'n Ddydd! Edit this on Wikidata
Mathdinas fawr, y ddinas fwyaf, dinas Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Taf Edit this on Wikidata
Poblogaeth361,469 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1081 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserAmser Cymedrig Greenwich Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Stuttgart, Vigevano, Bari, Naoned, Xiamen, Luhansk, Pernik, Hordaland Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Cymraeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd140.3 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr41 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Taf, Môr Hafren, Afon Elái Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLlantrisant Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4817°N 3.1792°W Edit this on Wikidata
Cod postCF Edit this on Wikidata
Map

Prifddinas Cymru yw Caerdydd ("Cymorth – Sain" ynganiad  Saesneg: Cardiff); hon yw dinas fwyaf Cymru a'r ddegfed fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Daeth yn ddinas yn 1905 ac yn brifddinas Cymru yn 1955. Yma mae canolfan fasnachol fwyaf Cymru ac mae'r rhan fwyaf o sefydliadau cenedlaethol Cymru wedi eu lleoli yma hefyd. Mae poblogaeth Caerdydd oddeutu 361,469 (2016)[1] a'r ddinas gyfan (ardal 'Caerdydd Fwyaf' neu 'Ardal Drefol Caerdydd') sy'n cynnwys Penarth a Dinas Powys yn 447,487[2].

Ceir llawer o brifddinasoedd ledled y byd sy'n llai na Chaerdydd gan gynnwys prifddinasoedd: Bern, Y Swistir (134,506 (31 Rhagfyr 2022)[3]), Brwsel, Gwlad Belg (195,546 (1 Ionawr 2024)[4]) a Wellington, Seland Newydd (215,400 (30 Mehefin 2018)).

Roedd Caerdydd yn dref fechan tan ddechrau'r 19g. Tyfodd yn gyflym gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ac yn enwedig pan gysylltwyd cymoedd De Cymru â rheilffyrdd fel y gellid allforio glo o borthladd Caerdydd. Yn 1851 roedd poblogaeth Caerdydd yn 20,000 ond erbyn 1911 roedd yn 182,000 ac erbyn 1991 roedd yn 269,000. Yn 1891 roedd Caerdydd yn allforio 708,000 o dunelli o lo: erbyn 1911 roedd yr allforion yn 10 miliwn tunnell.

Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel "Tiger Bay", ac ar un adeg hon oedd un o borthladdoedd prysuraf y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu fel Bae Caerdydd. Gobeithir y daw yn ardal boblogaidd ar gyfer y celfyddydau, bywyd nos ac adloniant. Daw'r twf aruthrol yma ar ôl adeiladu argae ar draws y bae, gan greu llyn enfawr. Roedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu. Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yno mae Canolfan y Mileniwm hefyd, sydd yn gartref i Urdd Gobaith Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â Stadiwm y Mileniwm.

  1. https://statswales.gov.wales/Catalogue/Population-and-Migration/Population/Estimates/Local-Authority/populationestimates-by-localauthority-year.
  2. Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, Wikidata Q855531, https://www.ons.gov.uk/census/2011census
  3. https://www.pxweb.bfs.admin.ch/pxweb/en/px-x-0102020000_201/-/px-x-0102020000_201.px/table/tableViewLayout2/.
  4. "Chiffres de population au 1er janvier 2024" (PDF).

Previous Page Next Page






Cardiff AF ካርዲፍ AM Caerdydd AN Cardiff ANG كارديف Arabic كارديف ARY كارديف ARZ Cárdif AST Kardiff AZ کاردیف AZB

Responsive image

Responsive image