Math | camlas i longau |
---|---|
Enwyd ar ôl | Suez |
Agoriad swyddogol | 17 Tachwedd 1869 |
Cysylltir gyda | Y Môr Coch, Y Môr Canoldir |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llywodraethiaeth Suez |
Gwlad | Yr Aifft |
Uwch y môr | 0 metr |
Cyfesurynnau | 30.705°N 32.3442°E |
Hyd | 193.3 cilometr |
Rheolir gan | Awdurdodau Camlas Suez |
Camlas enfawr yn yr Aifft yw Camlas Suez (Arabeg:قناة السويس: Qanâ el Suweis) neu'r Camlas Sŵes yng Nghymraeg.[1][2][3] Mae hi rhwng Port Said (Bûr Sa'îd) ar arfordir y Môr Canoldir a Suez (El Suweis) ar arfordir y Môr Coch ac yn 163 km o hyd.
Gellir mynd ar long o Ewrop i Asia ar y gamlas hon heb orfod mynd o gwmpas Affrica a Penrhyn Gobaith Da. Cyn adeiladu'r gamlas, cludai rhai pobl nwyddau i'r porthladd ar long ac yna dros yr anialwch rhwng y Môr Canoldir a'r Môr Coch ar gefn camel ac wedyn dros y môr eto ar long, ond roedd y rhan fwyaf o'r nwyddau yn mynd o amgylch cyfandir Affrica.
Adeiladwyd camlas Suez rhwng 25 Ebrill, 1859 a 1869 gan gwmni Ffrengig o'r enw Compagnie Universelle du Canal Maritime de Suez dan reolaeth Ferdinand de Lesseps. Roedd y cynllun gan Alois Negrelli, peiriannydd o Awstria ac roedd yr Aifft a Ffrainc yn berchen ar y gamlas. Aeth y llong gyntaf trwyddi ar 17 Chwefror, 1867 ac ar 17 Tachwedd, 1869 cynhaliwyd seremoni agor swyddogol y gamlas. Dywed rhai fod Giuseppe Verdi wedi ysgrifennu'i opera enwog Aida ar gyfer y seremoni hon, ond ni all hynny fod yn wir gan iddi gael ei pherfformio yn Cairo ym 1871 am y tro cyntaf.
Amcangyfrifir i tua 1.5 miliwn o Eifftwyr weithio ar adeiladu'r camlas hon a thua 125,000 ohonyn nhw wedi marw yn ystod y gwaith adeiladu, y mwyafrif ohonynt oherwydd colera.[4] Some sources estimate that over 30,000 people were working on the canal at any given period, that more than 1.5 million people from various countries were employed,[5][6] Yn sgîl llawer o ddyledion ariannol yr Aifft, bu'n rhaid iddynt werthu eu rhan o'r gamlas i'r Deyrnas Unedig. Oherwydd hyn, bu lluoedd y DU yn amddiffyn y camlas ers 1882.[7]
Serch hynny, cipiodd yr Aifft y gamlas yn ôl ar 26 Gorffennaf, 1956 ac o ganlyniad roedd byddin y DU, Ffrainc ac Israel wedi ymosod. Achosodd hyn Rhyfel Suez a barodd am wythnos. O ganlyniad, penderfynodd y Cenhedloedd Unedig mai'r Aifft oedd pia'r gamlas.
O ganlyniad y Rhyfel Chwech Diwrnod ym Mehefin 1967 roedd y gamlas ar gau tan 5 Mehefin, 1975 a chyn 1974 roedd lluoedd cadw heddwch y Cenhedloedd Unedig ar Gorynys Sinai.[8]
Ar hyn o bryd nid yw'r gamlas mor eang fel y gall llongau sydd yn mynd i gyfeiriadau gwahanol basio ei gilydd, ac eithrio mewn mannau penodol ar hyd y gamlas. Does dim lociau arni, ond mae'n rhy cul i danceri olew enfawr basio. Fodd bynnag, ceir cynlluniau i ehangu'r gamlas.
Teithia tua 15,000 o longau ar hyd y gamlas, tua 14% o deithiau llongau'r byd. Mae taith y gamlas Suez yn cymryd rhwng 11 ac 16 o oriau.