Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Canlyniadaeth

Canlyniadaeth
Mathethical theory Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebDyletswyddeg Edit this on Wikidata
Prif bwncmoeseg Edit this on Wikidata

Dosbarth o ddamcaniaethau moesegol normadol yw canlyniadaeth[1] sydd yn dal taw canlyniadau sydd yn pennu gwerthoedd moesol. Defnyddiolaeth yw'r ddamcaniaeth ganlyniadol amlycaf. Gwelir ei gwreiddiau yn syniadaeth yr Epiciwriaid a gwaith Francis Hutcheson a Joseph Priestley. Gellir ei leoli yn rhan o'r traddodiad pleseryddol (neu hedonaidd). Jeremy Bentham a John Stuart Mill yw'r ddau Sais a gydnabyddir yn arloeswyr defnyddiolaeth, sy'n hyrwyddo'r lles cyffredin. Yn yr 20g datblygodd G. E. Moore ffurf ar ganlyniadaeth o'r enw "defnyddiolaeth ddelfrydol", sydd yn cydnabod harddwch a chyfeillgarwch ar y cyd â phleser.

  1. "Canlyniadaeth Archifwyd 2017-12-24 yn y Peiriant Wayback", Y Termiadur Addysg. Adalwyd ar 31 Mawrth 2018.

Previous Page Next Page