Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3155°N 4.3136°W, 53.3°N 4.3°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Pentref bychan yng nghymuned Llanddyfnan Ynys Môn yw Capel Coch[1][2] ( ynganiad ). Saif yng nghanolbarth yr ynys ar ffordd gefn, i'r gogledd o dref Llangefni ac i'r gorllewin o Benllech, ym mhlwyf eglwysig Llanfihangel Tre'r Beirdd.
Ceir ysgol gynradd yno, Ysgol Tŷ Mawr, yr ysgol leiaf ym Môn. Fymryn i'r dwyrain o'r pentref mae Cors Erddreiniog, sy'n Warchodfa Natur Genedlaethol.