Enghraifft o: | arteffact archaeolegol, Überrest, ysgrifen ddwyieithog |
---|---|
Crëwr | Ptolemi V Epiphanes |
Deunydd | granodiorite |
Label brodorol | Rosetta stone |
Dyddiad darganfod | 15 Gorffennaf 1799 |
Iaith | Hen Roeg, Eiffteg |
Dechrau/Sefydlu | 196 CC |
Lleoliad | yr Amgueddfa Brydeinig |
Perchennog | yr Amgueddfa Brydeinig |
Enw brodorol | Rosetta stone |
System ysgrifennu | hieroglyffau'r Aifft, demotig yr Aifft, Yr wyddor Roeg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Slab o garreg arysgrifiedig a ddarganfuwyd ar 15 Gorffennaf 1799 yn Rosetta (Arabeg: Rashid), ger Alecsandria yng ngogledd Yr Aifft yw Carreg Rosetta.[1] Mae'n dryll anghyflawn o dalp o garreg fasalt ddu sydd bellach yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain. Darganfuwyd y garreg ym mhorthladd Rossetta, yr Aifft gan Pierre-François Bouchard. Yr enw modern ar y porthladd yw 'Rashid'.
Ceir arni datganiad a wnaed gan y brenin Ptolemi V Epiphanes (teyrnasodd 205 CC-180 CC) yn 196 CC, a gofnodir mewn dwy iaith a thair sgript, sef hieroglyphiaid Eifftaidd, demotig a Groeg. Ceir 14 llinell o heieroglyphiaid, 32 llinell o ddemotig (sgript ddiweddarach ar gyfer ysgrifennu Hen Eiffteg) a 54 llinell o Roeg. Datganiad ynglŷn ag offeiriadaeth teml Memphis a geir arni.
Sylwodd yr ieithydd Thomas Young ar y ffaith fod un enw, sef enw'r brenin, yn dangos yn y tair sgript, ac aeth ati i ddechrau dehongli'r arysgrifiadau. Llwyddodd ieithydd arall, y Ffrancwr Jean-Francois Champollion, i gwblhau'r cyfieithu. Cyhoeddodd Champollion ei ddarganfyddiad yn y gyfrol Lettre à M. Dacier relative à l'aplphabet des Hiéroglyphes Phonétiques (1822). Fel hyn y cafwyd yr agoriad i fynd ati a darllen a dehongli holl arysgrifau Hen Eiffteg yr Aifft.