Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9834°N 3.3356°W |
Cod OS | SJ104437 |
Gwleidyddiaeth | |
Pentref bychan yn ne Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Carrog( Ynganiad ). Gorwedd ar lan Afon Dyfrdwy tua 2 filtir i'r dwyrain o Gorwen, ar y ffordd i gyfeiriad Llangollen (cyfeiriad grid SJ114437). Mae Carrog 104 milltir (167.3 km) o Gaerdydd a 169.3 milltir (272.4 km) o Lundain. Cyfeirwyd at y pentref fel Llansantffraid-Glyn Dyfrdwy hyd troad yr 20g, gan y safai o fewn plwyf hynafol Llansantffraid Glyndyfrdwy.[1] Daw ei henw cyfoes o Orsaf Reilffordd Carrog yr ochr arall i'r afon Dyfrdwy, ac enwyd hwnnw yn ei dro ar ôl ystad Carrog gerllaw.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[2][3]
Mae'r pentref yn gorwedd ar groesffordd ar y B543 ar lan ogleddol Afon Dyfrdwy. Mae Pont Carrog yn croesi'r afon yma i gysylltu'r pentref â ffordd yr A5 yr ochr draw. Llifa Afon Morynion (Afon Morwynion) trwy'r pentref i ymuno yn Afon Dyfrdwy. Mae Gorsaf reilffordd Carrog yn ffurfio rhan o Reilffordd Llangollen erbyn hyn.
Yn y bryniau tua milltir i'r gorllewin, ceir safle hen fryngaer Caer Drewyn.
Mae ysgol gynradd gymunedol Ysgol Carrog dros 100 mlwydd oed.