Math | adfeilion castell, castell mwnt a beili, mwnt |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.978353°N 3.304164°W, 52.978046°N 3.301802°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | ME017 |
Hen domen, neu fwnt, o'r Oesoedd Canol ydy Castell Glyndyfrdwy (hefyd Castell Glyn Dŵr neu Mwnt Owain Glyn Dŵr), Llidiart y Parc, Glyndyfrdwy, heb y mur gwarcheidiol arferol, sef y “beili”. Fe'i lleoli ger Corwen yn Sir Ddinbych (cyfeiriad grid SJ125431). Fe'i cofrestrwyd gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: ME017.[1]
Fe godwyd y rhan fwyaf o'r tomenni hyn yng Nghymru rhywdro rhwng degawdau olaf yr 11g ac ail hanner y 12g allan o bridd a charreg, gyda ffos o'u cwmpas fel rheol. Y Normaniaid ddaeth â'r math hwn o amddiffynfa o Ffrainc i wledydd Prydain a mabwysiadwyd y dechnoleg gan y Cymry. Mae'r clwstwr mwyaf o'r tomennydd hyn drwy wledydd Prydain i'w weld yn ardal y gororau (neu'r Mers): sef Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Swydd Henffordd, Powys a Sir y Fflint fel y caiff ei adnabod heddiw.[2]
Ym Medi 2010 lansiwyd prosiect i gryfhau'r mwnt ac i wella'r fynedfa iddo. Mae Cadw wedi clustnodi'r lle fel rhan o brosiect gwerth dwy filiwn o bunnoedd.[3]