![]() | |
![]() | |
Math | dinas, dinas Hanseatig, dinas fawr ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 305,120 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Visvaldas Matijošaitis ![]() |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Kharkiv ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Kaunas ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 157 km² ![]() |
Uwch y môr | 48 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Neman ![]() |
Cyfesurynnau | 54.9°N 23.93°E ![]() |
Cod post | LT-44001 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Visvaldas Matijošaitis ![]() |
![]() | |
Ail-ddinas fwyaf Lithwania yw Cawnas (/ˈkaʊnəs/; Lithwaneg: Kaunas [kɐʊˑn̪ɐs̪] (gwrando); Pwyleg: Kowno; gynt Saesneg: Kovno), sydd wedi'i lleoli yng nghanol y wlad ac sy'n hanesyddol yn ganolfan economaidd, academaidd, a diwylliannol bwysig yn Lithwania. Mae'r ddinas tua hanner ffordd rhwng Vilnius, y brifddinas, a Memel, prif borthladd Lithwania.
Mae'r enw hefyd yn cwmpasu sir Cawnas, sedd Dinas Cawnas a Dosbarth Cawnas. Defnyddir yr enw hefyd am sedd Archesgobaeth Gatholig Cawnas. Fe'i lleoli yng nghymer dwy afon fwayf Lithwania: Afon Nemunas ac Afon Neris, a ger Cronfa Ddŵr Cawnas, y corff mwyaf o ddŵr yn Lithwania.
Credir y cafodd Cawnas ei sefydlu yn 1030, ond mae'n cael ei chrybwyll gyntaf mewn ffynonellau ysgrifenedig yn 1361. Mae tarddiad mwyaf tebygol enw Lithwaneg y ddinas yn deillio o enw personol tebyg.[1]