Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Cea

Ccea'n bwyta darnau rwber ar drysiau car
Cea
Nestor notabilis

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Psittaciformes
Teulu: Psittacidae
Genws: Nestor[*]
Rhywogaeth: Nestor notabilis
Enw deuenwol
Nestor notabilis



Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Cea (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: ceaod) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Nestor notabilis; yr enw Saesneg arno yw Kea. Mae'n perthyn i deulu'r Parotiaid (Lladin: Psittacidae) sydd yn urdd y Psittaciformes.[1]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn N. notabilis, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Mae’r cea yn fyw yn ardaloedd coedol neu fynyddol ar Ynys y De, Seland Newydd. Maent yn adnabyddus am eu chwilfrydedd, ac yn gallu bod yn ddinistriol, yn niwsans i breswylwyr ac yn atyniad i dwristiaid.

Maent yn nythu ar y llawr, ac yn dueddol o ddodwy 4 wy, yn arferol rhwng Hydref a Ionawr. Maent yn bwyta cig a phlanhigion. Mae’r rhywogaeth wedi bod yn swyddogol dan fwgwth o ddifodiant ers 2013, ond er na chaniateir eu lladd ers 1971, mae rhai’n cael eu saethu’n angyfreithlon. Saethwyd tua 150,000 ohonynt rhng 1860 a 1970.[3]

  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. Gwefan nzbirdsonline.org.nz

Previous Page Next Page






Kea AF Nestor notabilis AN Kea ANG كيا (ببغاء) Arabic كاى (نوع من الزواحف) ARZ Кеа (птица) Bulgarian Kea BR Kea (ocell) Catalan Nestor notabilis CEB Nestor kea Czech

Responsive image

Responsive image