![]() | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 389, 359 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,352.62 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.229461°N 3.473258°W ![]() |
Cod SYG | W04000145 ![]() |
Cod OS | SJ007725 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Gareth Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | James Davies (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentref bychan a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Cefn Meiriadog. Daw’r enw o enw'r bryn gerllaw. Saif yn nyffryn Afon Elwy, tua pum milltir i'r de-orllewin o dref Llanelwy, a heb fod ymhell o Ogof Bontnewydd, lle cafwyd hyd i rai o weddillion dynol hynaf yng Nghymru. Ceir beddrod o'r cyfnod Neolithig gerllaw.
Dywedir i'r fan gael ei henwi ar ôl Meiriadog, sant o’r 5g. Ceir ffynnon yno, Ffynnon Fair, y credid ar un adeg ei bod yn medru iachau clwyfau. Bu'r bardd Siôn Tudur (1522 – 1602) yn byw ym Mhlas Wigfair gerllaw.