Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.411°N 4.453°W |
Cod OS | SH370933 |
Cod post | LL67 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Pentref gweddol fawr yng nghymuned Llanbadrig, Ynys Môn, ydy Cemaes ( ynganiad ). Fe'i lleolir ar arfordir gogleddol yr ynys, ger Bae Cemaes lle mae Afon Wygyr yn cyrraedd y môr. Saif ger y briffordd A5025 rhwng Amlwch a Llanrhuddlad. Mae'n bosibl mai dyma bentref mwyaf gogleddol Cymru, er y gellid dadlau mai pentref Llanbadrig yw hwnnw.
Pentref gwyliau yw Cemaes yn bennaf erbyn heddiw, er bod pysgota wedi bod yn bwysig yn y gorffennol. Ceir dau draeth, harbwr, amrywiaeth o siopau a nifer o westai. Mae'r ardal o gwmpas y pentref yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn mynd heibio'r pentref. Ychydig i'r gorllewin mae gorsaf bŵer niwcliar yr Wylfa.