Charlotte Church | |
---|---|
![]() Charlotte Church yn perfformio yng ngŵyl Focus Wales, 2013 | |
Ganwyd | Charlotte Maria Reed ![]() 21 Chwefror 1986 ![]() Llandaf ![]() |
Label recordio | Sony Music, Columbia Records ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr-gyfansoddwr, canwr opera, karateka, actor ffilm, awdur, cyflwynydd teledu ![]() |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, operatic pop, roc indie, roc amgen, indie pop, cerddoriaeth glasurol, cerddoriaeth Celtaidd ![]() |
Math o lais | soprano ![]() |
Taldra | 164 ±1 centimetr ![]() |
Priod | Gavin Henson ![]() |
Gwobr/au | Q113031066, Classic Brit Awards ![]() |
Gwefan | http://charlottechurchmusic.com/ ![]() |
Chwaraeon |
Cantores o Gaerdydd yw Charlotte Church (ganwyd Charlotte Maria Reed, 21 Chwefror 1986). Mae hefyd wedi cyflwyno sioe ei hun ar y teledu ac wedi cymryd diddordeb cryf mewn gwleidyddiaeth adain chwith. Soprano yw Charlotte Church a ddechreuodd ei gyrfa pan oedd yn ifanc, dechreuodd gyda cherddoriaeth glasurol ac yna cerddoriaeth pop yn 2005. Erbyn 2007 roedd Church wedi gwerthu mwy na 10 miliwn o albymau yn fyd-eang. Cyflwynodd sioe ar Channel 4 o’r enw The Charlotte Church Show ac roedd yn westai ar lawer o sioeau eraill. Mae Church wedi canu yn Saesneg, Cymraeg a Ffrangeg. Ym mis Tachwedd 2010, dywedwyd yng nghylchgrawn "Heat" fod ganddi ffortiwn o £10.3 miliwn.[1]