Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Chwyldro Libia

Chwyldro Libia
Hen faner Brenhiniaeth Libia, a atgyfodwyd fel symbol gan y gwrthryfelwyr.
Enghraifft o:rhyfel cartref, rhyfel chwyldroadol Edit this on Wikidata
Rhan oY Gwanwyn Arabaidd, Libyan crisis Edit this on Wikidata
Dechreuwyd15 Chwefror 2011 Edit this on Wikidata
Daeth i ben23 Hydref 2011 Edit this on Wikidata
LleoliadLibia Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhyfel chwyldroadol a ymladdwyd yn 2011 i ddymchwel llywodraeth Muammar al-Gaddafi oedd Chwyldro Libia (Arabeg: الثورة الليبية‎). Wedi'r chwyldroadau yn Nhiwnisia a'r Aifft yn ystod y Gwanwyn Arabaidd, cychwynnodd cyfres o brotestiadau yn Libia i alw am arweinyddiaeth newydd ac etholiadau democrataidd. Dechreuodd y gwrthryfel yn sgil gwrthdrawiadau rhwng protestwyr a'r lluoedd diogelwch yn Benghazi ar 15 Chwefror 2011. Ymhen wythnos, ffrwydrodd ymladd mewn sawl dinas a brwydrodd Gaddafi i gadw ei reolaeth dros y wlad. Ymatebodd Gaddafi gyda grym milwrol a mesurau eraill megis sensoriaeth ac ataliadau ar gyfathrebu. Cyhuddwyd ef o recriwtio hurfilwyr tramor yn sgil gwrthgilio ymhlith ei luoedd. Cynigodd Gaddafi i gynnal trafodaethau ag arweinwyr y gwrthwynebiad trwy gynrychiolydd, ond gwrthododd y gwrthryfelwyr i drafod â Gaddafi a galwyd arno i ymddiswyddo a gadael y wlad.

Ehangodd y gwrthryfel i wrthdaro arfog, gyda gwrthryfelwyr yn sefydlu clymblaid o'r enw'r Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol a seiliwyd yn Benghazi. Rhybuddiodd y Llys Troseddol Rhyngwladol y gall Gaddafi ac aelodau o'i lywodraeth wedi cymryd rhan mewn troseddau yn erbyn dynoliaeth. Pasiodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig benderfyniad yn rhewi asedau Gaddafi a deg aelod o'i gylch mewnol, a chyfyngu ar eu gallu i deithio. Ar ddechrau Mawrth ail-gipiodd lluoedd Gaddafi nifer o ddinasoedd arfordirol yn nwyrain Libia cyn ymosod ar Benghazi. Awdurdodwyd gwaharddiad hedfan dros Libia gan benderfyniad arall, i'w weithredu gan aelod-wladwriaethau'r CU. Datganodd llywodraeth Gaddafi cadoediad, ond methodd i'w gadw. Dechreuodd clymblaid o wladwriaethau i weithredu'r gwaharddiad hedfan ar 19 Mawrth trwy analluogi amddiffyniadau awyr Gaddafi.

Ym mis Awst cychwynnodd y gwrthryfelwyr ymgyrch ymosodol ar hyd arfordir Libia, gan gipio'r brifddinas Tripoli. Ar 16 Medi cydnabuwyd y Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol gan y Cenhedloedd Unedig fel cynrychiolydd Libia yn lle llywodraeth Gaddafi. Cafodd Gaddafi ei ddal a'i ladd yn ei ddinas enedigol Sirt ar 20 Hydref,[1] a datganodd y Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol ddiwedd y rhyfel ar 23 Hydref 2011.[2] Er i'r chwyldro lwyddo, hon oedd ond y rhan gyntaf o gyfnod hir o ansefydlogrwydd yn Libia, a ddilynwyd gan frwydro rhwng y llywodraeth newydd a milisiâu (2011–14), rhyfel cartref ar raddfa eang (2014–20), argyfwng ffoaduriaid, rhagor o brotestiadau (2020), a gwrthdrawiadau yn Tripoli (2022–23).

  1. "Cyrnol Gaddafi yn cael ei ladd yn ei dref enedigol", Golwg360 (Hydref 2011). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Mawrth 2024.
  2. "Cyhoeddi fod Libya yn rhydd", Golwg360 (Hydref 2011). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Mawrth 2024.

Previous Page Next Page