Enghraifft o: | sefydliad |
---|---|
Math | anheddiad dynol, cymuned parod |
Rhan o | Kibbutz Movement |
Gwefan | https://www.kibbutz.org.il/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cymuned fwriadol gyfunol Israelaidd yw cibwts (weithiau cibẃts; Hebraeg: קיבוץ; lluosog: cibwtsau neu cibwtsim: קיבוצים, "casgliad" neu "ynghyd"). Er bod gwledydd eraill wedi mentro cymundodau tebyg, nid oes 'run ohonynt wedi chwarae rôl mor bwysig o fewn gwlad â chibwtsau Israel. Sefydlwyd y weledigaeth pan sefydlwyd gwladwriaeth Israel yn y 1940au, a pharhaodd hyd heddiw.
Caiff y rôl o fagu'r plant eu rhannu gan rieni ac oedolion eraill. Yn aml byddai'r plant yn cysgu mewn tŷ plant tra bod y rhieni mewn tŷ arall.[1]
Mae cibwtsau yn arbrawf Israelaidd unigryw, sydd yn cyfuno sosialaeth a Seioniaeth i'r hyn a elwir yn Seioniaeth Lafur, ac yn rhan o un o'r mudiadau cymunedol mwyaf erioed. Sefydlwyd y cibwtsau mewn cyfnod pan nad oedd ffermio annibynnol yn ymarferol. Wedi eu gorfodi gan anghenreidiau i droi at fywyd cymunedol, ac wedi eu hysbrydoli gan ideoleg Iddewig-sosialaidd eu hunain; datblygodd aelodau'r cibwtsau ddull cymunedol a phur o fyw, a ddenodd sylw'r holl fyd. Parhaodd cibwtsau am nifer o genedlaethau fel cymunedau iwtopaidd, ond mae'r rhan fwyaf o gibwtsau heddiw yn debycach i'r trefi cyfalafaidd yr oedd y cibwtsau gwreiddiol yn ceisio bod yn ddewisiadau amgen iddynt.
Mae cibwtsau wedi cyfrannu cyfran anghyfartal o arweinwyr milwrol, deallusion, a gwleidyddion Israel.[2] Er nad yw poblogaeth y mudiad cibwts erioed wedi bod yn uwch na 7% o boblogaeth Israel gyfan, maent wedi gwneud mwy i ffurfio'r ddelwedd sydd gan Israeliaid o'u gwlad, a'r ddelwedd sydd gan dramorwyr o Israel, nag unrhyw sefydliad arall.