Math | uned ddinesig o fewn Rwmania, prifddinas un o siroedd Rwmania, dinas fawr, dinas, tref goleg, Brenhiniaeth Rwmania, bwrdeistref |
---|---|
Prifddinas | Cluj-Napoca |
Poblogaeth | 286,598 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Emil Boc |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Cluj |
Gwlad | Rwmania |
Arwynebedd | 179.5 ±0.01 km² |
Uwch y môr | 356 metr |
Cyfesurynnau | 46.78°N 23.5594°E, 46.8°N 23.6°E |
Cod post | 400001–400930 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Cluj-Napoca |
Pennaeth y Llywodraeth | Emil Boc |
Cluj-Napoca (Rwmaneg: Cluj-Napoca, a elwir yn gyffredin fel Cluj, (ynganiad Rwmaneg: [ˈkluʒ naˈpoka] (About this soundlisten), Almaeneg: Klausenburg; Hwngareg: Kolozsvár, ynganiad Hwngareg: [ˈkoloʒvaːr] ; Lladin Canol Oesoedd: Castrum Clus, Claudiopolis; ac Iddeweg: קלויזנבורג, Kloiznburg), yw'r ail ddinas fwyaf yn Rwmania, ar ôl y brifddinas Bucharest, a sedd Sir Cluj yn rhan ogledd-orllewinol y wlad. Yn ddaearyddol, yn gyfochrog o Bucharest ( 324 km.), Budapest (351 km) a Belgrâd (322 km) Wedi'i lleoli yn nyffryn Afon Somesul Mits, ystyrir y ddinas yn brifddinas answyddogol rhanbarth hanesyddol Transylfania. O 1790 i 1848 ac o 1861 i 1867 hi oedd prifddinas swyddogol Tywysogaeth Fawr Transylfania.
Mae dinas Cluj wedi newid dwylo sawl gwaith yn ei hanes a bu ymgypris mawr drosti yn y cyfnod modern rhwng Hwngari a'i ffiniau fel benhiniaeth Transleithania neu fel Hwngari Fawr a Rwmania a Rwmania Fawr. Hyd heddiw, er bod y ddinas wedi bod yn rhan o Rwmania ers 1920, mae dal lleiafrif Hwngareg ei hiaith yn y ddinas. Efallai oherwydd yr amrywiaeth yma a chryfder cymharol yr eglwys Lutheraidd yn y ddinas, bu yn fan cychwyn Chwyldro gwrth Gomiwnyddol a gwrth-Nicolae Ceauşescu yn 1989.