Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Coed Celyddon

Coed Celyddon
Math o gyfrwnglleoliad chwedlonol Edit this on Wikidata

Coedwig rhywle yn yr Hen Ogledd, yn y diriogaeth sy'n awr yn rhan ddeheuol yr Alban oedd Coed Celyddon.

Ceir nifer o gyfeiriadau at y goedwig hon. Yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir rhestr o frwydrau Arthur. Un o'r rhain yw Cat Coit Celidon (Cad Coed Celyddon).

Yn y farddoniaeth sy'n ymwneud â Myrddin Wyllt yn Llyfr Du Caerfyrddin, dywedir i Myrddin wallgofi a mynd i fyw i Goed Celyddon yn dilyn Brwydr Arfderydd. Roedd Myrddin yn fardd llys i Gwenddoleu ap Ceidio, a laddwyd yn y frwydr gan Rhydderch Hael.

Ceir hefyd gyfeiriad yn y Vita Kentigerni at Llallogan yn gwallgofi a ffoi i'r goedwig yn yr un modd.

Ceir hanes Myrddin Wyllt yng Nghoed Celyddon yn y gerdd Ladin Vita Merlini ('Buchedd Myrddin') gan Sieffre o Fynwy yn ogystal. Yno mae Taliesin yn ymweld â Myrddin Wyllt yn y coed ac yn trafod hanes y byd, gwyddoniaeth, a phynciau eraill. Yng nghorff y gerdd ceir cyfres o ddaroganau am y Brythoniaid.


Previous Page Next Page








Responsive image

Responsive image