Mewn mathemateg, mae cromlin (hen enw: 'llinell grom'), yn gyffredinol, yn wrthrych tebyg i linell nad yw'n syth. Mae 'crom' yn enw benywaidd y gair 'crwm', neu 'crwn'. Gofod topolegol yw'r gromlin, sy'n homomorffig, yn lleol, i linell. Mewn iaith bob dydd: mae cromlin yn set o bwyntiau sydd, yn agos at bob un o'i bwyntiau, yn debyg i linell. Enghraifft syml o gromlin yw'r parabola. Astudir nifer fawr o gromliniau eraill mewn gwahanol feysydd mathemategol.
Un math o gromlin yw'r gromlin gaeedig, lle mae'r dechrau yn un a'i diwedd, fel llwyb cylchog, sy'n ffurfio arwyneb o'i mewn. Astuydir cromlinau mewn graffiau ee cromlin Phillips a 'r graff dau ddimensiwn.